Beth yw arwyddocâd tir? Beth yw arwyddocâd teulu? Beth fydd yn digwydd pan na fydd pennaeth y teulu a hynny yw, prif rheolwr y tir yn gallu cymryd cyfrifoldeb? Pwy fydd yn cymryd drosodd? Pwy fydd eisiau cymryd drosodd?
Dyma rhai o’r gwestiynau sy’n cael ei ofyn yn ystod perfformiad promenâd newydd gan Theatr Genedlaethol. Pan fu Bryn Fferm Pencerrig yn cwympo’n dost, daw teulu at ei gilydd er mwyn trafod dyfodol y fferm. Ar ôl iddo farw, dyma’r plant yn dechrau ail-feddwl am beth mae’r fferm yn golygu iddynt; beth mae cartref yn golygu iddynt. Mae Luned yn hapus yn gweithio yn yr archfarchnad, breddwydion o fod yn sief talentog wedi hen farw. Mae Celyn yn gweithio yn Llundain lle does neb yn gallu dweud ei enw’n iawn. Mae Arwel yn gweithio mewn swydd di-wobr i gadw tô dros teulu ifanc ei hun. A wedyn mae Non, yr unig un sydd wedi dangos diddordeb i barhau a traddodiad y teulu. Ond gyda’r disgwyliad bod hi’n mynd i redeg y fferm yn annibynnol, ydy hi’n barod fel person i gymryd drosodd? Mae pawb eisiau cadw’r fferm, ond does neb wir eisiau’r cyfrifoldeb, a tra bod pawb yn ceisio dod i dermau gyda beth fydd colli’r fferm yn meddwl i hunaniaeth nhw, mae Mam yn brifo’n dwfn ar ol colli ei ŵr yn sydyn. Mae’r holl sefyllfa yn fwy na colli Dad a colli gŵr: mae’n meddwl colli tir, colli ffordd o fywyd a cholli cartref hefyd.
Ar ôl cychwyn ein daith yn neuadd San Pedr lle gawsom paned a bara brith, mae’r bws yn cludo’r cynulleidfa i’r amgueddfa yn Abergwili. Wrth sefydlu’r perfformiad yn yr amgueddfa hanesyddol, nid dim ond teimlad o dŷ ffarm go iawn sy’n cael ei chreu, ond hefyd teimlad o anysmwythder: fath o arwyddwr o beth sydd i ddod. Wrth gerdded o stafell i stafell, mae’r cynulleidfa yn gweld darnau o sgript a chyfres o fonologau. Roedd hefyd darnau o fideo yn cael ei ddangos, ond i fod yn hollol onest, mi allai’r cynhyrchiad wedi neud heb y fideos yma. Ar amseroedd, roedd y ffaith ein bod wedi symud mewn i stafell gwahanol er mwyn gwylio fideo o ffermwyr yn gweithio yn teimlo braidd yn ddi-bwynt: fe all y cymeriadau wedi trosglwyddo anhawster y gwaith llafur trwy deialog neu darnau corfforol ei hun.
Roedd yr olygfeydd rhwng y cymeriadau yn hollol realistig, yn llawn egni ac yn effeithiol dros ben. Roedd yr olygfeydd rhwng y brodyr (Gwydion Rhys a Siôn Ifan) yn penigamp, yr egni frwd gwrywaidd yn creu cyfnewidiau gwefredig. Roedd Rhian Morgan fel Anne yn perffaith. Heb mynd dros ben llestri gyda rôl y wraig weddw, roedd y perfformiad yn sensitif a theimladwy, yn enwedig yn ystod golygfa lle bu Bryn ifanc yn ymddangos o flaen hi yn ystod y nos.
Mae’r perfformiad yn dod i ben gyda angladd, angladd Dad ac o ganlyniad, angladd y fferm. Gyda côr Llanpumpsaint a’r cylch yn canu’n swynol, roedd yr holl peth yn cryfhau’r ystyr difrifol, ac yn uwcholeuo’r teimlad o golled mewn mwy nag un ffordd. Wrth gerdded mas, welwn ni Anne yn pacio lan y llestri, ac wrth adael mae synau tŷ arwerthu yn cael ei chwarae. I gloi’r darn, welwn ni Luned ac Arwel yn barod i yrru caws a llaeth i werthwyr. Yn fy marn i, mi fydde fe wedi bod yn well i adael yr olygfa olaf, i orffen gyda marwolaeth busnes y fferm: mi fydde hwnna wedi bod yn fwy effeithiol i mi.
Cynhyrchiad realistig wedi gyfleu trwy stori ingol, stori i gynrychioli cwymp busnesau ffermio fel canlyniad o straeniau a realiti bywyd modern. Diolch i Tir Sir Gar am ddod a’r peth i sylw pob un ohonym.